Gwely Clyd a Chroeso Cynnes
Gwely Clyd a Chroeso Cynnes
Hafan • Croeso • Hanes • Tresaith • Aros Yma • Stafelloedd • Holi • Dolenni • Llyfr Ymwelwyr
Pan ddewch i aros yn Glandwr Tresaith, bydd stafell wely braf yn disgwyl amdanoch, gyda golygfa dros Fae Ceredigion neu gefn gwlad coediog Dyffryn Saith. Yn stafelloedd gwely dwbwl, neu stafell â dau wely, mae gan bob stafell faddondy en suite, neu un breifat. Gallwn hefyd gynnig darpariaeth i blant sy'n rhannu stafell gyda'u rhieni. Mae gan bob stafell wely deledu a darpariaethau gwneud paned.
Mae gennym lolfa ar gyfer ein hymwelwyr, sy'n arwain i'r stafell frecwast. Yno cewch ddewis o frecwast traddodiadol Cymreig, brecwast llysieuol, neu frecwast cyfandirol. O'u harchebu ymlaen llaw, gallwn hefyd ddarparu papurau newydd dyddiol.
Cliciwch yma i gael gweld ein stafelloedd, a mwy o fanylion am ein cyfraddau, dulliau talu, manylion cyrraedd a brecwast, ac yma er mwyn holi am lety a manylion sut i ddod o hyd i ni.