Croeso i Glandŵr Tresaith

 

Mae croeso cynnes pedair seren yn disgwyl amdanoch pan ddewch i aros ym mhlas gwledig Glandŵr, Tresaith. Dim ond llam a naid o draeth enwog Tresaith ar arfordir rhamantus Ceredigion, mae Glandŵr yn eistedd yn urddasol mewn saith erw o erddi a choedtir braf ar gyrion y pentre.

 

Mae Glandŵr yn adeilad rhestredig o'r cyfnod Sioraidd ac yn cynnig llety gwely-a-brecwast cysurus a chyfeillgar o'r safon uchaf. Mae gan bob stafell wely ei hystafell molchi en suite ei hun, neu stafell molchi breifat, ynghyd â'r adnoddau i sicrhau bod eich arhosiad yn un cofiadwy.

 

Gyda'r traeth o fewn cyrraedd hwylus iawn ar droed, Arfordir Treftadaeth Ceredigion ar ein trothwy, Llwybr Troed yr Arfordir, llwybrau cerdded a seiclo, chwaraeon ar y dwr, ein hamgylchedd ddilychwin, ein hetifeddiaeth a'n natur wyllt, mae Glandŵr yn ganolfan heb ei hail ar gyfer eich ymweliad â gorllewin Cymru.