Hanes Glandŵr Tresaith

 

Mae Glandŵr yn dyddio nôl i 1809, ceir tystiolaeth o'r dyddiad hwnnw wedi ei gerfio ar y trawst uwchben y lle tân mawr. Adeiladwyd Glandŵr gan John Lloyd-Williams, perchennog stad Gwernant, a thirfeddiannwr mawr yn Sir Aberteifi, fel tŷ haf yn Nhresaith iddo ef a'i deulu.

 

Erbyn diwedd y 19eg Ganrif, roedd Glandŵr yn cael ei rentu i Benjamin Evans, cyfreithiwr yng Nghastell Newydd Emlyn. Roedd ei ferch Ann Adaliza Evans yn un o nofelwyr amlyca'i hoes, yn sgrifennu o dan y ffugenw Allen Raine. Mor boblogaidd oedd ei nofelau ym Mhrydain, America ac Ewrop fel y troswyd rhai o'i storiau am fywyd gwledig yng Nghymru i ffilmiau mud cynnar.

 

Roedd gan Allen Raine gysylltiadau agos iawn â Glandŵr, ac yn 1872, yn 36 oed, oddi yma y gadawodd yn ei phoni a trap i fynd i briodi â'i gŵr Beynon Puddicombe yn eglwys hynafol San Mihangel Penbryn gerllaw.

 

Adeiladwyd sawl estyniad at Glandŵr dros y blynyddoedd, ac ar ôl cyfnod maith fel gwesty yn Nhresaith, diweddarwyd y tŷ yn ystyrlon o'i hanes a'i gymeriad yn ddiweddar; bellach mae'n gartref cysurus a chroesawgar.