Symud o gwmpas Glandwr

 

Mae Glandwr yn dy Sioraidd rhestredig, yn dyddio o 1809. Yn anffodus, gall hynny olygu cyfyngiadau i rai ymwelwyr wrth symud o gwmpas y ty, yn enwedig ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn.


  1. 1.Mynedfa: mae dau ris cul crwm wrth fynedfa Glandwr

  2. 2.Mae stafelloedd llawr Glandwr i gyd ar y gwastad, ac eithrio goleddf bychan i mewn i’r stafell frecwast, a gris i lawr i’r gegin.

  3. 3.Mae stafelloedd gwely Glandwr i gyd ar y llawr cyntaf. Yr unig ffordd i gael atyn nhw yw drwy ddringo grisiau tro. Nid oes lifft.

  4. 4.Mae tri gris yn disgyn o stafell wely Lloyd Williams a Nash i’r baddondai. Yn yr un modd mae tri gris yn disgyn o un rhan i’r llall ym maddondy stafell Raine. Nid oes canllaw ar y grisiau hyn.

  5. 5.Mae dihangfeydd tân y stafelloedd gwely yn gyfyng, ac yn arwain tuag at dir agored ar allt.

  6. 6.Mae lled ein drysau yn amrywio. Fe all hynny olygu cyfyngder ar gyfer rhai dulliau symudedd, ac yn enwedig cadeiriau olwyn.

  7. 7.Gallwn ddarparu bwydlen frecwast â phrint bras os oes angen.