Lloyd-Williams
Lloyd-Williams
Hafan • Croeso • Hanes • Tresaith • Aros Yma • Stafelloedd • Holi • Dolenni • Llyfr Ymwelwyr
Enwyd y stafell hon ar ôl John Lloyd-Williams o stâd Gwernant, a adeiladodd Glandwr tua 1809. Mae gan y stafell hon olygfeydd braf dros y môr yn y pellter a choedtir Glandwr. Ynddi fe gewch wely dwbwl cyffyrddus gyda byrddau bach a lampau wrth yr erchwyn, droriau, tair cadair esmwyth, bwrdd bach, bwrdd gwisgo, a drych mawr gogoneddus. Yn disgyn o'r stafell wely mae grisiau yn mynd i lawr i lecyn ar gyfer paratoi te a choffi, lle ceir hefyd wardrob ddwbwl, gyda drws yn arwain i faddondy en suite sy'n cynnwys ty bach, basn, baddon a chyfarpar cawod.