Nash
Cafodd stafell Nash ei henwi ar ôl John Nash, y pensaer o fri o'r cyfnod Sioraidd a gynlluniodd dref Aberaeron a Regent Street a Phalas Buckingham yn Llundain. Dywedir ei fod hefyd wedi cynllunio Glandwr, ac er nad oes sicrwydd o hynny, mae ôl ei ddylanwad yn gryf ar bensaernïaeth y ty. Gyda golygfa o'r coedtir o gwmpas Glandwr, mae gan stafell Nash ddau wely sengl mewn stafell sy'n cynnwys byrddau wrth erchwyn y ddau wely, lampau, cadeiriau esmwyth, bwrdd coffi, bwrdd gwisgo, droriau, a theledu. wrth ddisgyn grisiau bychain, fe ddowch i'r llecyn lle mae adnoddau gwneud paned ynghyd â chwpwrdd dillad dwbwl, cyn arwain i faddondy en suite sy'n cynnwys ty bach, basn, baddon ac adnoddau cawod.