Glandwr | Croeso | Welcome | Bienvenue | © | Cynllun : Sitemap : Plan

dalen-logo-lliw-bach2.gif


morladronclawrwe.jpg

Enter content here

Cliciwch ar y llun i ddarllen mwy am y teitl hwn yn ein Catalog
 
Y Triawd Amser a Môr-Ladron y Caribî
Mae Dalen wedi ennill yr hawliau Cymraeg i gyhoeddi'r llyfr cynta mewn cyfres o anturiaethau tri teithiwr amser ifanc o'r enw Gwion, Gradlon a Garmon - Y Triawd Amser. O dan yr enw Die Abrafaxe, mae'r gyfres Almaeneg hon yn llwyddiannus a phoblogaidd tu hwnt ar y cyfandir gyda phlant dros 10 oed, lle mae cylchgrawn misol llyfrau, ffilm a nwyddau yn cael eu cynhyrchu yn dilyn anturiaethau'r triawd.

Yn y llyfr cynta yn Gymraeg - o'r enw Y Triawd Amser a Môr-Ladron y Caribî - mae Gwion, Gradlon a Garmon yn dod ar draws llestr aur sy’n eu cludo nôl i'r 18G ac i gwmni peryglus môr-ladron y Caribî, gan gynnwys Anne Bonny a Blackbeard.

Stori stribed anturus llawn cyffro a fydd yn gweld golau dydd yn Gymraeg yn yr Hydref 2006.

Dewch nôl eto'n fuan i weld pa lyfrau eraill sy gyda ni ar y gweill!

Diweddarwyd ddwetha ar 27 Mai 2006.

Enter content here