|

Amcan Dalen
yw cyhoeddi rhai o lyfrau a chyfresi mwya poblogaidd Ewrop yn Gymraeg, ac yn arbennig lyfrau y genre straeon stribed - neu'r
bande desinée (BD) - sy mor boblogaidd ar y cyfandir.
Un o olygyddion Dalen, Alun Ceri Jones, wnaeth gyfieithu'r
llyfrau Asterix i'r Gymraeg nôl yn y 70au. Mae'r teitlau straeon stribed sydd ar gael erbyn heddiw yn eang ofnadwy,
yn lyfrau ar gyfer plant ac yn rai penodol ar gyfer oedolion. Ein bwriad ni yw cyhoeddi ar gyfer croesdoriad eang o'r
gynulleidfa Gymraeg, gan obeithio hefyd y bydd ein llyfrau ni yn denu mwy o oedolion ifanc - a'r sawl sydd yn ei oed a'i
amser - i ddarllen yn eu hamser hamdden ddeunydd difyr ac adloniannol yn yr heniaith.
Mae Dalen yn rhan o gwmni
Surrexit Creadigol sy wedi bod yn flaenllaw yn y byd marchnata, hyrwyddo a dylunio trwy gyfrwng y Gymraeg ers dros ddegawd.
Enter content here
Enter content here
Enter content here
|