Glandwr | Croeso | Welcome | Bienvenue | © | Cynllun : Sitemap : Plan

dalen-logo-lliw-bach2.gif


penbleth-clawr.gif

Cliciwch ar lun y clawr 
i weld mewn tu fewn!

Penbleth Dynol Ryw
ISBN: 0-9551366-0-1
Awdur: Ralf König
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2005
Pris: £7.99
120tt, llyfr stori stribed ar gyfer darllenwyr aeddfed


Mae Moc yn ystyried ei hun fel tipyn o foi, felly pan mae ei gariad Rhian yn ei adael mae'n rhaid iddo dynnu sylw at ei hun. Ond mae hithe'n gweld drwy'r cwbwl, ac mewn gwewyr emosiynol mae ynte'n trio rhoi trefn newydd ar ei fywyd trwy ymuno â chylch o ddynion sy'n ceisio dadansoddi eu hunain (a'u botymau bol). Yno mae'n dod ar draws Cris (neu Cristîn i'w ffrindiau) sy wedi derbyn gwahoddiad i drafod sut beth yw bod yn ddyn hoyw. A dyna lle mae penbleth Moc yn dechrau...

Broliant o'r blogs:
 
"...Mae hwn yn swnio'n ofandwy o esceiting. Ti 'di darllen rhai o'r tudalenne sy' ar y wefan? Mae acen un boi (Moc ie?) o Sir Abertefi a'r llall o'r north, yn hollol naturiol, a doniol iawn. Son am shelffo a phethe. Edrych mlaen!"

"Mae unrhyw gomic sy'n defnyddio'r gair ffwrchymwrthodwr yn haeddu llyfr y ff***n flwyddyn. Hwre!"

Cliciwch i weld eitem Y Sioe Gelf (10.2MB)

Enter content here