Glandwr | Croeso | Welcome | Bienvenue | © | Cynllun : Sitemap : Plan
Croeso  |  Hanes  |  Tresaith  |  Holi  |  Dolenni

English

 
Gwely Clyd a Chroeso Cynnes
 
 

Pan ddewch i aros yn Glandwr, bydd stafell wely braf yn disgwyl amdanoch, gyda golygfa dros Fae Ceredigion neu gefn gwlad coediog Dyffryn Saith. Yn stafelloedd gwely dwbwl, neu stafell â dau wely, mae gan bob stafell faddondy en suite, neu un breifat. Gallwn hefyd gynnig darpariaeth i blant sy'n rhannu stafell gyda'u rhieni. Mae gan bob stafell wely deledu a darpariaethau gwneud paned.

Mae gennym lolfa ar gyfer ein hymwelwyr, sy'n arwain i'r stafell frecwast. Yno cewch ddewis o frecwast traddodiadol Cymreig, brecwast llysieuol, neu frecwast cyfandirol. O'u harchebu ymlaen llaw, gallwn hefyd ddarparu papurau newydd dyddiol.

Cliciwch yma i gael gweld ein cyfraddau, dulliau talu, manylion cyrraedd a brecwast, ynghyd â'n lleoliad a map, a chilciwch yma i gael gweld ein stafelloedd