Glandwr | Croeso | Welcome | Bienvenue | © | Cynllun : Sitemap : Plan

croeso_pennawd.jpg

Croeso  |  Hanes  |  Tresaith  |  Aros Yma  |  Holi  |  Dolenni  |  Llyfr Ymwelwyr

Croeso i Glandwr Tresaith

Glandwr Tresaith, plasty gosgeiddig a chartrefol

OHERWYDD RHESYMAU TEULUOL DIM OND GWASANAETH CYFYNGEDIG Y GALLWN EI GYNNIG I YMWELWYR ELENI
Mae croeso cynnes pedair seren yn disgwyl amdanoch pan ddewch i aros ym mhlas gwledig Glandwr, Tresaith. Dim ond llam a naid o draeth enwog Tresaith ar arfordir rhamantus Ceredigion, mae Glandwr yn eistedd yn urddasol mewn saith erw o erddi a choedtir braf ar gyrion y pentre.
 
Mae Glandwr yn adeilad rhestredig o'r cyfnod Sioraidd ac yn cynnig llety gwely-a-brecwast cysurus a chyfeillgar o'r safon uchaf. Mae gan bob stafell wely ei hystafell molchi en suite ei hun, neu stafell molchi breifat, ynghyd â'r adnoddau i sicrhau bod eich arhosiad yn un cofiadwy.
 
Gyda'r traeth o fewn cyrraedd hwylus iawn ar droed, Arfordir Treftadaeth Ceredigion ar ein trothwy, Llwybr Troed yr Arfordir, llwybrau cerdded a seiclo, chwaraeon ar y dwr, ein hamgylchedd ddilychwin, ein hetifeddiaeth a'n natur wyllt, mae Glandwr yn ganolfan heb ei hail ar gyfer eich ymweliad â gorllewin Cymru.

Croeso cynnes i Glandwr, Tresaith
Croeso  |  Hanes  |  Tresaith  |  Aros Yma  |  Holi  |  Dolenni  |  Llyfr Ymwelwyr

Enter content here

Enter content here

Enter content here