OHERWYDD RHESYMAU TEULUOL DIM OND GWASANAETH
CYFYNGEDIG Y GALLWN EI GYNNIG I YMWELWYR ELENI
Mae croeso cynnes pedair seren yn disgwyl amdanoch pan ddewch i aros ym mhlas
gwledig Glandwr, Tresaith. Dim ond llam a naid o draeth enwog Tresaith ar arfordir rhamantus Ceredigion, mae Glandwr yn eistedd
yn urddasol mewn saith erw o erddi a choedtir braf ar gyrion y pentre.
Mae Glandwr yn adeilad rhestredig o'r cyfnod Sioraidd ac yn cynnig llety gwely-a-brecwast
cysurus a chyfeillgar o'r safon uchaf. Mae gan bob stafell wely ei hystafell molchi en suite ei hun, neu stafell molchi breifat,
ynghyd â'r adnoddau i sicrhau bod eich arhosiad yn un cofiadwy.
Gyda'r traeth o fewn cyrraedd hwylus iawn ar droed, Arfordir Treftadaeth Ceredigion
ar ein trothwy, Llwybr Troed yr Arfordir, llwybrau cerdded a seiclo, chwaraeon ar y dwr, ein hamgylchedd ddilychwin, ein hetifeddiaeth
a'n natur wyllt, mae Glandwr yn ganolfan heb ei hail ar gyfer eich ymweliad â gorllewin Cymru.