Dulliau talu
Derbynnir arian parod neu sieciau mewn punnoedd neu Ewros
Rydym hefyd yn derbyn cerdiau credyd a cherdiau debyd
Blaendal o 50% i'w
dalu ar gyfer stafelloedd a osodir o flaen llaw gyda chadarnhad ysgrifenedig
Disgwylir rhybudd o 24 awr ar gyfer cansladau. Ffi canslo o 50%
yn daladwy
Cyrraedd a gadael
Cyrraedd o 4.00pm ymlaen
Gadael erbyn 10.00am
Brecwast
Rrhwng 8.00am a 9.00am
Ble mae Glandwr?
Dilynwch yr A487 i gyfeiriad y gogledd o Aberteifi am 8 milltir, neu i'r de o Aberaeron
am 12 milltir. Ar gyffordd Gogerddan ger Tanygroes, dilynwch ffordd y B4333 i Aberporth. Ar gyrion Aberporth, trowch i'r
dde ar hyd Ffordd Tresaith. Pan gyrhaeddwch Dresaith, bydd mynedfa Glandwr ar yr ochr dde - fwy neu lai gyferbyn â'r
safle bws - ychydig cyn tro siarp lle mae'r ffordd yn fforchio i gyfeiriad y traeth a chyfeiriad Llangrannog.
Cliciwch yma er mwyn gweld lle ryn ni, ar safle Multimap.com.