Gyda thraeth euraid hyfryd a chefn gwlad godidog o’i gwmpas, mae Glandwr Tresaith
yn gyfrinach fyddwch chi wastad eisiau ei chadw i chi’ch hun. Gorwedd pentre Tresaith yng nghôl dyffryn afon Saith,
yn glynu at ochrau bae bychan ar Arfordir Treftadaeth Forol Ceredigion. Gerllaw mae sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac mae’r cwm yn gartre i fodaod a barcutiaid, ynghyd
â dolffiniaid yn y bae a morloi sy’n galw heibio.
Tresaith yw un o draethau enwoca’r Gorllewin, traeth
tywod Baner Las sy’n ddeniadol a diogel. Mae chwaraeon ar y dwr yn boblogaidd yma, a gall y plant gael oriau o sbri yn chwilio
am grancod a physgod yn y pyllau ar y creigiau ar ôl y trai. Yn ystod yr haf mae gwyliwr glan môr yn cadw golwg
ar y traeth er mwyn sicrhau diogelwch pellach i’r sawl sy’n mwynhau Tresaith, ac mae siop a chaffi yn gyfleus
ger y traeth ar gyfer anghenion pwysig fel hufen iâ, te, a thamediau i aros pryd. Fe gewch chi fynd â'ch cwn
ar draeth Tresaith, ond fe’u cyfyngir i un rhan o’r traeth rhwng mis Mai a mis Medi. Mae’r traeth yn lân
a braf, ac fe anogwn ymwelwyr i’w gadw felly.
Un o nodweddion anarferol traeth Tresaith yw rhaeadr Ffrwd y Felin,
lle mae afon Saith yn pistyllu i’r tywod o’r clogwyn uwchlaw. Ffurfiwyd gwely presennol yr afon yn ystod Oes yr
Iâ pan ddargyfeiriwyd yr afon ar ei ffordd i’r môr. Pan fydd y llanw ar drai, gallwch gerdded ar hyd y glannau
o Dresaith i draeth hir a melyn Penbryn gerllaw – ond mae’n rhaid bod yn wyliadwrus a chadw llygad ar amserlen y llanw cyn mentro allan, rhag ofn i’r llanw eich dal ar y creigiau.
I ffwrdd o’r traeth fe ddowch o hyd i nifer
o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys llwybr yr arfordir ar hyd y clogwyni o Dresaith i bentrefi glan môr Aberporth a Llangrannog.
Mae ‘na sawl llwybr hefyd yn treiddio i fyny cwm coediog dyffryn Saith. Yn y fro mae ‘na sawl llwybr seiclo, ac
fe allwch fentro i gerdded yn ucheldiroedd Elenydd a Preseli, ar hyd afon Teifi, ac ym Mharc Cenedlaethol Penfro. Gallwch hefyd chwarae golff, pysgota, saethu, a merlota yn yr ardal. Nid nepell i ffwrdd mae bae creigiog Cwmtudu sy’n
gartref i forloi (ac yn guddfan nodedig ar gyfer smyglwyr fel Siôn Cwilt, a llongau tanddwr yr Almaenwyr adeg yr Ail
Ryfel Byd), traeth gogoneddus Mwnt gydag Eglwys y Grog gerllaw, a harbwr pysgota Cei Newydd.
Does neb yn sicr o darddiad
enw Tresaith. Fe all bod yr enw yn dalfyriad o Traeth Saith. Yn ôl y chwedl anfonodd brenin o Iwerddon ei saith o ferched
dros y môr mewn llong heb na hwyliau na rhwyfau. Daethant i’r lan ar draeth Tresaith, a syrthio mewn cariad a
phriodi saith o feibion ffermydd gorau’r fro.
Tan y 19eg Ganrif, dim ond dau adeilad oedd ger y môr yn
Nhresaith, sef tafarn y Ship a bwthyn to gwellt Pantmawr, yn gwasanaethu’r llongau ddeuai â glo a chalch dros
y dwr i’r ardal hon. Mae tafarn y Ship yn boblogaidd hyd heddiw ar gyfer bwyd da, naws gyfeillgar, a golygfeydd
heb eu hail dros y bae. Fe gewch hyd i fwytai a thafarndai da eraill yn yr ardal hefyd, gan gynnwys y Ship yn Llangrannog,
Abdul’s yn Aberteifi, a'r Gogerddan Arms yn Nhanygroes.
Rhyw filltir neu ddwy i ffwrdd o Dresaith mae eglwys
San Mihangel, eglwys hynafol plwyf Penbryn. Gerllaw mae coedwig odidog Penbryn a thraeth o dywod sy’n filltir o hyd.
Ar y ffordd i Benbryn fe welwch faen sy’n coffau Corbalengus o lwyth Brythoniaid yr Ordofigiaid (neu’r Orddwy), oedd â’u tiroedd yn ymestyn o’r Gogledd cyn belled
ag ardal Tresaith tua’r de. Dywed arysgrif y garreg Corbalengi Iacit Ordovs (yma y gorwedd Corbalengus yr Ordofigiad),
a phan gloddiwyd y safle ym 1804 daethpwyd o hyd i wrn llawn lludw a darnau o arian oedd yn dyddio o deyrnasiad yr ymerawdwyr
Rhufeinig Vespasianus a Titus (69-81OC). Mae’r darnau hyn bellach yn yr Amgueddfa Geledlaethol yng Nghaerdydd.
Mae gwasanaeth bws y Cardi Bach yn gwasanaethu Tresaith ar ddyddiau penodol (cliciwch yma ac yma ar gyfer gwasanaethau eraill). Ceir adnoddau siopa cyfyngedig yma, sydd ar agor yn bennaf yn ystod yr haf, ond yn Aberporth
gerllaw mae nifer o siopau eraill. Y dref agosa yw Aberteifi, ac mae Castell Newydd Emlyn, Llambed, Abergwaun, Tyddewi, Aberaeron,
Aberystwyth a Chaerfyrddin i gyd o fewn cyrraedd hwylus mewn car.