Glandwr | Croeso | Welcome | Bienvenue | © | Cynllun : Sitemap : Plan

hanes_pennawd.jpg

Croeso  |  Hanes  |  Tresaith  |  Aros Yma  |  Holi  |  Dolenni  |  Llyfr Ymwelwyr

Hanes Glandwr Tresaith

Neuadd a grisiau syfrdanol Glandwr Tresaith
Mae Glandwr yn dyddio nol i 1809, ceir tystiolaeth o'r dyddiad hwnnw wedi ei gerfio ar y trawst uwchben y lle tân mawr. Adeiladwyd Glandwr gan John Lloyd-Williams, perchennog stad Gwernant, a thirfeddiannwr mawr yn Sir Aberteifi, fel ty haf yn Nhresaith iddo ef a'i deulu.
 
Erbyn diwedd y 19eg Ganrif, roedd Glandwr yn cael ei rentu i Benjamin Evans, cyfreithiwr yng Nghastell Newydd Emlyn. Roedd ei ferch Ann Adaliza Evans yn un o nofelwyr amlyca'i hoes, yn sgrifennu o dan y ffugenw Allen Raine. Mor boblogaidd oedd ei nofelau ym Mhrydain, America ac Ewrop fel y troswyd rhai o'i storiau am fywyd gwledig yng Nghymru i ffilmiau mud cynnar.
 
Roedd gan Allen Raine gysylltiadau agos iawn a Glandwr, ac yn 1872, yn 36 oed oddi yma y gadawodd yn ei phoni a trap i fynd i briodi a'i gwr Beynon Puddicombe yn eglwys hynafol San Mihangel Penbryn.
 
Adeiladwyd sawl estyniad at Glandwr dros y blynyddoedd, ac ar ôl cyfnod maith fel gwesty yn Nhresaith, diweddarwyd y ty yn ystyrlon o'i hanes a'i gymeriad yn ddiweddar; bellach mae'n gartref cysurus a chroesawgar.

John Lloyd Williams ac Allen Raine, cyn-breswylwyr
John Lloyd-Williams | Allen Raine

Croeso cynnes i Glandwr Tresaith

Croeso  |  Hanes  |  Tresaith  |  Aros Yma  |  Holi  |  Dolenni  |  Llyfr Ymwelwyr