Mae Glandwr yn dyddio nol i 1809, ceir tystiolaeth o'r dyddiad hwnnw
wedi ei gerfio ar y trawst uwchben y lle tân mawr. Adeiladwyd Glandwr gan John Lloyd-Williams, perchennog stad Gwernant,
a thirfeddiannwr mawr yn Sir Aberteifi, fel ty haf yn Nhresaith iddo ef a'i deulu.
Erbyn diwedd y 19eg Ganrif, roedd Glandwr yn cael ei rentu i Benjamin Evans, cyfreithiwr yng
Nghastell Newydd Emlyn. Roedd ei ferch Ann Adaliza Evans yn un o nofelwyr amlyca'i hoes, yn sgrifennu o dan y ffugenw Allen
Raine. Mor boblogaidd oedd ei nofelau ym Mhrydain, America ac Ewrop fel y troswyd rhai o'i storiau am fywyd gwledig yng Nghymru
i ffilmiau mud cynnar.
Roedd gan Allen Raine gysylltiadau agos iawn a Glandwr, ac yn 1872, yn 36 oed oddi yma y gadawodd
yn ei phoni a trap i fynd i briodi a'i gwr Beynon Puddicombe yn eglwys hynafol San Mihangel Penbryn.
Adeiladwyd sawl estyniad at Glandwr dros y blynyddoedd, ac ar ôl cyfnod maith fel gwesty, diweddarwyd
y ty yn ystyrlon o'i hanes a'i gymeriad yn ddiweddar; bellach mae'n gartref cysurus a chroesawgar.